Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn cynnwys disgrifiadau o droseddau a allai beri gofid.
Mae dioddefwyr yng Nghymru wedi croesawu canllawiau newydd ar gosbi troseddwyr sy’n tagu (strangle).
“Dylai o ddim cael ei ystyried fel trosedd fach – ro’n i’n meddwl ‘mod i am farw pan ddigwyddodd o i fi,” meddai Sophie Henson, 24.
Dywedodd ei bod nawr yn teimlo’n dawel ei meddwl o weld “tagu’n cael ei gymryd o ddifrif” gan y system gyfiawnder.
Cafodd Sophie ei thagu gan ei chyn-bartner pan oedd hi 36 wythnos yn feichiog, mewn lleoliad anghysbell i ffwrdd o’i chartref.
Mae hi a goroeswyr eraill wedi croesawu canllawiau newydd ar gosbi troseddwyr, ar ôl i’r Cyngor Dedfrydu gyhoeddi’r argymhellion cyntaf ar gyfer barnwyr ac ynadon yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r argymhellion yn rhoi cyngor i farnwyr ar sut i ddedfrydu mewn achosion o’r fath, a pha ffactorau allai ddylanwadu ar hyd y ddedfryd.