O’n i’n gwybod ei fod e’n heriol iawn, felly o’n i’n ffodus iawn, ‘nath e ddechrau’r cyfweliad drwy honni ffeithiau o’dd ddim yn gywir: ‘Reit! ‘Nawn ni aros ar y pwnc yma’. Felly er iddo ymgeisio dianc, ‘nes i ddim gadael iddo fe!
Dwi’n meddwl pan ‘nes i ddweud wrtho am ‘wneud ei waith cartref’, o’dd hynny’n seicolegol bwysig. Damwain oedd hynny ar y pryd, ond o edrych nôl, roedd o’r peth gorau i’w wneud!
Roedd y mwyafrif llethol yn canmol fi, ac yn ddigon hapus i Jeremy Paxman gael amser anodd am unwaith.
Rhai blynydde yn ôl o’n i’n cerdded yn Llundain, a dyma ddyn yn cerdded lawr y palmant y ffordd arall, ac yn aros a dweud ‘Paxman – well done!‘. Maen nhw dal i gofio.
Mae’n anffodus mewn ffordd, achos dwi’n hoffi meddwl mod i wedi cyflawni mwy mewn bywyd nag un cyfweliad. Ond dyna fe!