Daeth fferm Llyndy Isaf o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2012, pan gafodd ei phrynu gan yr elusen – yn dilyn llwyddiant apêl gyhoeddus.
Cafodd yr ymgeiswyr llwyddiannus eu dewis gan Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’u Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Eryri, Trystan Edwards.
Dywedodd Trystan Edwards fod Ioan a Sara wedi cael “eu rhoi ar brawf” am gyfnod o dair wythnos, “gan ddangos i ni pa mor dda roeddent yn deall rôl ffermio a byd natur mewn amgylchedd mor arbennig â hwn”.
“Mae’r fferm yn sicr o fynd o nerth i nerth dan eu gwarchodaeth ofalus, ac rwy’n dymuno’r gorau iddynt,” meddai.
Ychwanegodd Mr Edwards ei fod yn “gobeithio y bydd y gynulleidfa sydd wedi bod yn gwylio’r gyfres yn gwerthfawrogi’r rhan hollbwysig mae ffermwyr yn ei chwarae wrth helpu natur i ffynnu yng nghefn gwlad, wrth redeg busnesau cynaliadwy sy’n cynhyrchu bwyd da”.
“Rydym hefyd yn hynod o falch o gael arddangos diwylliant unigryw Cymru a pha mor hanfodol yw ffermio i gymunedau gwledig yng Nghymru,” meddai Trystan.