Emma Finucane yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2024

Emma Finucane yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2024

Cafodd y gwobrau eleni eu dyfarnu gan banel o arbenigwyr, dan arweiniad y cadeirydd Y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Y beirniaid eraill oedd cyn-chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd Cymru, Nia Jones, Owen Lewis o Chwaraeon Cymru, Deon Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Met Caerdydd, yr Athro Katie Thirlaway, a chyfarwyddwr gweithredol rygbi Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker.

Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson bod 2024 “wedi bod yn flwyddyn ragorol i chwaraeon Cymru” a bod “lefel aruthrol y talent ac ymroddiad” gymaint o athletwyr wedi gwneud tasg y beirniaid yn un “anodd eithriadol”.

Roedd yr enwau eraill a gafodd eu hystyried am y wobr yn cynnwys:

  • Y pêl-droediwr Jess Fishlock;

  • Y taflwr maen Paralympaidd Sabrina Fortune;

  • Y bocsiwr Lauren Price;

  • Y canŵydd Paralympaidd Laura Sugar;

  • Y seiclwr Elinor Barker;

  • Y nofiwr Matt Richards;

  • Y seiclwr Paralympaidd James Ball;

  • Yr athletwr taekwondo Paralympaidd Matt Bush;

  • Y rhwyfwr Paralympaidd Ben Pritchard;

  • a’r saethwr Paralympaidd Jodie Grinham.

Wrth wobrwyo Emma Finucane, dywedodd y Farwnes Grey-Thompson eu bod yn cydnabod “perfformiad rhagorol ym Mharis” a’i “chysondeb ar draws pob cystadleuaeth eleni”.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top