Doedd manylion y gwyn yn ei erbyn ddim yn gyhoeddus ar y pryd ond roedd BBC Cymru wedi adrodd bod y gwaharddiad oherwydd honiad difrifol, a’i fod yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd Douglas Bain.
Daeth ymchwiliad Mr Bain i’r casgliad ei fod wedi cyffwrdd dwy fenyw yn amhriodol a rhegi arnynt tra’n feddw ar noson allan.
Cafodd yr ymchwiliad ei gwblhau ym Mai 2023 ond doedd y casgliadau ddim yn gyhoeddus tan Mawrth 2024, pan gawson nhw eu cyhoeddi gan bwyllgor safonau’r Senedd.
Yn dilyn yr adroddiad cafodd Mr ab Owen ei wahardd o’r Senedd am ddeufis, a’i ddiarddel yn ddiweddarach gan Blaid Cymru.
Mae’n parhau’n aelod annibynnol o’r Senedd dros Ganol De Cymru.
Pan aeth Mr ab Owen i Washington roedd y pwyllgor wedi bod yn trafod casgliadau Mr Bain ers misoedd, yn ceisio dod i benderfyniad ar ba gosb i’w hargymell.
Aeth llawer o amser y pwyllgor ar ddelio gyda materion a gafodd eu codi gan Mr ab Owen a’i fargyfreithiwr.