O dan y drefn flaenorol, gallai rhieni ddisgwyl gorfod aros wythnosau, neu hyd yn oed misoedd, cyn cael eu cyswllt cyntaf gyda’r llys teulu, neu gyda’r gwasanaeth cynghori CAFCASS Cymru
Byddai achosion fel arfer yn cymryd chwech mis neu fwy i’w cwblhau, ac yn cynnwys nifer o wrandawiadau llys gwahanol
O dan y cynllun Pathfinder, o fewn diwrnod neu ddau o gyflwyno’r cais i’r llys, mae barnwr neu gynghorydd cyfreithiol yn ystyried y cais ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â’r achos
Fel arfer, mae’r barnwr yn gofyn i swyddog gyda CAFCASS Cymru baratoi adroddiad ar yr effaith ar y plentyn, fyddai’n cynnwys siarad gyda’r ddau riant, ac o bosib y plentyn ei hun, ac unrhyw un arall perthnasol fel ysgol y plentyn.
Mae’r swyddog yn tynnu sylw at unrhyw anghytundeb rhwng y ddwy ochr, cyn cyflwyno argymhellion i’r llys.
Mae hwn yn golygu bod barnwyr yn gallu cael rhagor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r achos, a hynny dipyn cynt nag o dan yr hen drefn.