Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 18:10 nos Sul yn dilyn adroddiad o achos o saethu yn ardal Green Park, Tonysguboriau.
Cyrhaeddodd hofrennydd yr heddlu yn Nhonysguboriau am 18:30, gan gylchu’r ardal cyn dychwelyd i’w safle yn Sain Tathan.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Sarah Jane Davies fod digwyddiadau diweddar yn yr ardal wedi achosi “pryder a braw yn y gymuned”.
Mewn diweddariad nos Lun, dywedodd y Prif Uwcharolygydd Ceri Hughes bod swyddogion yn parhau i geisio cadarnhau’r hyn ddigwyddodd.
“Rydw i’n apelio ar unrhyw un sydd â lluniau dashcam o ardal Tonysguboriau rhwng 17:30 a 18:30 ar ddydd Sul 9 Mawrth i gysylltu â ni.
“Rydw i’n deall y bydd pobl Tonysguboriau’n bryderus ac fe fydd rhagor o swyddogion yn yr ardal fel rhan o’r ymchwiliad ac er mwyn tawelu meddyliau.”
Mae modd rhannu fideos dashcam ar-lein, dolen allanol neu drwy ffonio 101.