Mae’r achos yn ymwneud â digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu yn Nhonysguboriau am tua 19:00 nos Wener, 31 Ionawr.
Fe wnaeth swyddogion ymateb yn dilyn adroddiadau bod rhywun yn difrodi cerbydau heddlu ac yn “achosi aflonyddwch”.
Cafodd tri swyddog heddlu eu hanafu, a bu’n rhaid i ddau gael triniaeth ysbyty wedi’r digwyddiad.
Mae’r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Gan fod natur y cyhuddiadau mor ddifrifol, cafodd yr achos ei gyfeirio at Llys y Goron.
Fe fydd Mr Dighton yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i’r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Mawrth.