Mae gyrrwr wedi cyfaddef lladd mam a merch mewn gwrthdrawiad yn 2023.
Ddydd Mercher, fe blediodd Firas Zeineddine, 46, yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal.
Bu farw Cheryl Woods, 61, a’i merch Sarha Smith, 40, o Gaerffili, mewn gwrthdrawiad pum cerbyd ar yr M4 yn Sir Wiltshire yn ne-orllewin Lloegr ar 20 Hydref 2023.
Roedd Zeineddine, o Keynsham ger Bryste, wedi’i gyhuddo’n wreiddiol o ddau achos o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Ond fe blediodd yn euog i’r cyhuddiadau llai difrifol, ac fe gafodd hynny ei dderbyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).