Mae dyn wedi marw ar ôl digwyddiad ar fferm ar Ynys Môn ddydd Mercher.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i ardal Rhyd-wyn ger Caergybi am 12:03, yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad ar y fferm.
Roedd swyddogion ambiwlans wedi cael eu galw hefyd.
Dywedodd yr heddlu y bu farw dyn a oedd wedi cael anafiadau yn y digwyddiad.
Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) hefyd yn cydweithio gyda’r heddlu i sefydlu’r amgylchiadau.