Mae dyn wedi marw a thair dynes wedi’u hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mangor ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng dau gar – Toyota Yaris a Vauxhall Vivaro – ar Beach Road toc cyn 13:00.
Dywedodd yr heddlu y cafodd “gyrrwr oedrannus” y Toyota ei hedfan mewn ambiwlans awyr i’r ysbyty yn Stoke, ond bu farw yn oriau mân bore Mercher.
Mae dynes oedd hefyd yn y car hwnnw yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Gwynedd.
Mae dwy ddynes oedd yn teithio yn y Vauxhall, hefyd yn Ysbyty Gwynedd gydag “anafiadau difrifol”.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â fideo camera cerbyd a allai fod yn berthnasol, i gysylltu â nhw.