Yn y cwest yn Rhuthun fe wnaeth y crwner roi teyrnged i’r gymuned leol wrth iddyn nhw ddod ynghyd i chwilio am Mr Perry.
Cafwyd hyd i’r athro wedi ymddeol o Gaerffili o dan ddŵr o dan giât fferm ar Heol Gŵyr yn Nhrefriw.
Clywodd y cwest fod Mr Perry, a oedd yn aros mewn bwthyn yn y pentref gyda’i wraig Catherine, wedi mynd â’u ci am dro y prynhawn cynt.
Mewn datganiad, dywedodd Catherine Perry ei bod wedi mynd allan yn fuan wedyn i redeg. Ychwanegodd ei bod wedi sylwi bod dŵr wedi dod i fyny ar y llwybr o Afon Conwy a bod dyn yn cerdded drwyddo.
Ffoniodd Mr Perry tua 16:25, a dywedodd ei fod yn mynd yn ôl i’r bwthyn.
Yn fuan wedyn fe glywodd hi gi yn cyfarth, a sŵn arall – dywedodd ei bod wedi meddwl mai sŵn ei gŵr oedd o ond roedd hi’n dywyll, yn bwrw glaw, ac nid oedd sôn amdano.