Dyddiadur Taith yr Urdd i India

Dyddiadur Taith yr Urdd i India

Heddiw, roedden ni i gyd yn gyffrous i gychwyn ar ein taith i ardal mwy gwledig o India, sef Santiniketan.

Cyn dal y trên, aethon ni draw i Apni Kutir – gofod saff i ferched dderbyn hyfforddiant er mwyn gallu bod yn annibynnol yn ariannol. Mae llawer o ferched yr ardal yn aml yn sownd i fywyd domestig heb obeithion o gael gwaith a rhyddid, felly roedd gweld gwaith gwych y ganolfan yma yn hollol ysbrydoledig.

Oedd hi’n brofiad gwych derbyn Mehendi (Henna) gan Selma, un o’r merched ifanc oedd wedi hyfforddi yn y ganolfan a bellach yn derbyn cyflog ei hun drwy wneud Mehendi mewn partïon a phriodasau.

Draw i ddal trên o orsaf Kolkata wedyn, ac am brofiad! Gymaint o fwrlwm yn yr orsaf gyda theithwyr yn cario bob math o nwyddau, bwyd a phlanhigion.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top