O’n i’n gwrthod gwrando ar y smart meter yn fy mhen yn gweiddi ‘dros gyllideb’ pan o’n i’n gorwario, petha’ peryg ydi overdraft a cardia’ credyd yn de? O’n i’n hoffi bod yn hael, nid yn unig efo’r hogia ond efo pawb, yn anffodus iddyn nhw o’n i’n dewis nifer a maint dros safon ac ansawdd, fy Fortnum & Mason i oedd Billy Lal’s Bargain Centre yn Llandudno.
Dwi wrth fy modd yn cael llond tŷ o bobl a chroesawu’r teulu draw am ginio Dolig. Roeddwn yn prynu’r twrci mwyaf bosib, gwneud stwffin fy hun, pwdin a chacen Dolig a mins peis cartref. Codi am bump bore Dolig i baratoi’r llysiau a stwffio’r twrci a’i roi yn y popty, fel bod arogl twrci’n rhostio yn llenwi’r tŷ erbyn i bawb arall godi.
Roedd fy amserlen berffaith yn gadael digon o le i fi gael fy hun yn barod efo colur a ffrog Nadolig glitzy cyn i’r plant ddeffro, ac wedyn cael digon o amser i agor anrhegion efo nhw, sgwennu cardiau diolch yn syth, ac wrth gwrs amser i chwarae a chael miloedd o hwyl.
Roedd y realiti yn hollol wahanol. Plant yn codi am 5.30, y tŷ a finna yn annibendod llwyr o fewn hanner awr, fi wedi rhoi’r hob ymlaen yn lle’r popty, twrci yn amrwd a moron yn llosgi tra bo’ fi, dal yn fy mhyjamas a gwallt fel Ken Dodd, yn cael sherry a mins pei am naw y bore efo Taid.