Dr Robert Deaves: ‘Dwi dal mewn cariad efo roboteg’

Dr Robert Deaves: ‘Dwi dal mewn cariad efo roboteg’

Tra’n gweithio i’r Sefydliad Arfau Atomig yn astudio effaith niwclear ar silicon, dechreuodd Robert weithio efo roboteg gan gael cyfle i fynd i Brifysgol Sydney i astudio algorithmau llywio (navigation algorithms).

Tra yno datblygodd algorithm o’r enw SLAM, sef Simultaneous Localisation and Map Building. Yn syml mae’r dechnoleg yn adeiladu map ac, ar yr un pryd, yn gallu dweud ble wyt ti o fewn y map.

Mae’r algorithm yma’n bwysig iawn, fel mae Robert yn esbonio: “Mae’r algorithm yna wedi bod yn sylfaen i’r maes roboteg am flynyddoedd rŵan.”

Defnyddiodd y gwyddonydd yr algorithm pan aeth yn ôl i’r byd roboteg gan symud i weithio yn Dyson yn datblygu sugnwyr llwch robotig sy’n glanhau lloriau heb help llaw person.

Ac mae’r dechnoleg hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Robert ar hyn o bryd yn ei waith i gwmni Oxa sy’n cynhyrchu ceir di-yrrwr.

Meddai: “Dwi rŵan yn datblygu cerbyd di-yrrwr sy’n teithio o gwmpas fferm solar, yn gwirio paneli solar i sicrhau bod nhw’n gweithio’n effeithiol.

“Mae’n job ffantastig, yn defnyddio technoleg roboteg i gefnogi ynni gwyrdd a chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top