Mae’r brifysgol ar hyn o bryd yn ymgynghori ar y cynlluniau i dorri 7% o’u staff academaidd a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Mehefin.
Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys cau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, ac uno adrannau eraill – gan gynnwys busnes, cerddoriaeth, nyrsio, ac ieithoedd modern a chyfieithu.
Yn y cyfamser, mae aelodau o Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn pleidleisio dros y posibilrwydd o fynd ar streic i wrthwynebu’r diswyddiadau gorfodol posib.
Mae aelodau eisioes wedi protestio yn erbyn y cynlluniau.
Yn ôl Leighton Andrews, mae wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.
Mae Mr Andrews yn awgrymu y dylai’r brifysgol ddefnyddio ychydig o’i harian wrth gefn a buddsoddiadau er mwyn atal rhai o’r toriadau posib.
“Fe allai gwneud hynny warchod dyfodol y brifysgol,” dywedodd yr Athro Andrews, oedd yn gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Cymru rhwng 2009 a 2013.