Diswyddo plismon Dyfed-Powys dros negeseuon hiliol a sarhaus

Diswyddo plismon Dyfed-Powys dros negeseuon hiliol a sarhaus

Roedd y Cwnstabl Gareth Horton o Bowys, sy’n dad i ddau o blant, wedi bod yn cyfnewid negeseuon WhatsApp gyda chwnstabl arall o Heddlu Glannau Mersi rhwng mis Mawrth a Gorffennaf 2023, pan oedd yn gweithio i’r llu.

Fe symudodd i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys ym mis Hydref 2023, ac fe ddaeth y negeseuon i’r fei yn dilyn ymchwiliad i swyddog arall, pan feddiannwyd ei ffôn.

Yn ystod y gwrandawiad, fe dderbyniodd y Cwnstabl Horton, sy’n gyn-filwr, bod y negeseuon wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu ac yn gyfysytyr â chamymddwyn difrifol.

Roedd wedi ymateb i rai negeseuon amhriodol gan y swyddog o Heddlu Glannau Mersi gydag emojis “crio chwerthin”.

Dywedodd y Cwnstabl Horton wrth y gwrandawiad ei fod wedi anfon y negeseuon er mwyn ceisio “ffitio mewn” gyda chydweithwyr yn Heddlu Glannau Mersi, ac nad oedd y negeseuon yn “adlewyrchu ei wir gymeriad”.

Wrth amlinellu’r achos yn ei erbyn, dywedodd Katherine Hampshire, bargyfreithiwr ar ran Heddlu Dyfed-Powys, bod y neges gyntaf a anfonwyd gan y cwnstabl o Heddlu Glannau Mersi at y Cwnstabl Horton ar 26 Mawrth, yn cynnwys sylwadau oedd yn gwneud hwyl am bobl trawsryweddol.

Bu’r ddau yn cyfnewid o leiaf wyth o negeseuon tan Gorffennaf 2023.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top