Mae dyn a ddioddefodd ymosodiad difrifol ar stryd yng Nghaerdydd bron i 23 o flynyddoedd yn ôl wedi marw.
Daethpwyd o hyd i Leon Adams yn anymwybodol ger gorsaf reilffordd Grangetown yn yr oriau mân ar 14 Chwefror 2002.
Yn 24 oed ar y pryd, fe fu mewn coma yn yr ysbyty am ddwy flynedd ac fe gafodd anafiadau a newidiodd ei fywyd.
Roedd angen gofal parhaus arno wedi iddo golli’r gallu i gyfathrebu ac i ddefnyddio ei goesau a’i freichiau.
Er i elusen gynnig gwobr o £10,000 i geisio dod o hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol ni ddaethpwyd o hyd i’r ymosodwr.