Mae Edward hefyd yn aelod o’r grŵp Catsgam, a phrofiad anodd iawn iddo oedd methu canu’r gitâr am gyfnod.
“Doedd gen i ddim teimlad yn fy mysedd ac er nad yw hynny wedi dod nôl yn llwyr dwi’n gallu perfformio gyda Catsgam bellach.
“Ond mae’n rhaid i fi ddweud bod rhai o’r effeithiau yn rhai hirdymor – weithiau nawr mae tasg o ysgrifennu llythyr pum munud yn gallu cymryd teirawr wrth i fi fethu gorffen brawddegau yn iawn a dwi ddim yn gallu gofalu am yr ardd fel cynt.
“Fel pennaeth mae’n rhaid i fi ddweud hefyd bod Covid wedi cael cryn effaith ar addysg ac fe gymrith flynyddoedd i bethau ddod nôl fel cynt.
“Mae presenoldeb disgyblion bellach oddeutu 88% lle cynt roedd e’n 95%, mae llythrennedd plant ar y cyfan yn is, mae eu geirfa yn fwy cyfyng a dydyn nhw ddim yn gallu datblygu cystrawen cystal.
“Mae’n anodd credu bod pum mlynedd ers Covid. Mae ei effeithiau yn bellgyrhaeddol ac efallai yn para am byth.”
Mae cyfweliad y Parchedig Hywel Edwards i’w glywed yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds