Llynedd fe gyhoeddwyd y byddai’r cwrs gwyddoniaeth TGAU yn cael ei gyflwyno flwyddyn yn hwyrach na’r disgwyl a bod cynlluniau ar gyfer cwrs TGAU Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hefyd wedi eu hatal.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am yr oedi i’r cwrs hanes, dywedodd Mr Butler: “Mae llwyth gwaith athrawon eisoes yn enfawr ac nid yw ychwanegu’r pwysau ychwanegol yn foesegol nac yn gynhyrchiol.
“Bydd athrawon a disgyblion yn cael budd o’r flwyddyn ychwanegol i ddatblygu’r [cwrs].”
Mewn llythyr i’r ysgolion, dywedodd Cymwysterau Cymru fod yr undebau a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi codi cwestiynau fod maint y newid a’r llwyth gwaith sy’n wynebu athrawon hanes yn fwy na phynciau eraill.
Ychwanegodd fod Cymwysterau Cymru, ynghyd â’r bwrdd arholi CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ac wedi gohirio cyflwyno’r cwrs TGAU hanes nes Medi 2026, pan fydd ail don o bynciau yn cael ei chyflwyno.
Mae’r cwrs hanes newydd yn canolbwyntio mwy ar hanes Cymru ac yn ehangu’r cyfnodau a’r pynciau sy’n cael eu dysgu, gan gynnwys hanes o du allan i Ewrop a Gogledd America, meddai Cymwysterau Cymru.