Bu farw Dylan Jones ar 4 Gorffennaf 2015 yn 37 oed – roedd yn dad i dri o blant.
“Roedd clywed y newyddion yn sioc anferth i ni gyd a’r peth gwaethaf fi wedi gorfod ‘neud erioed o’dd dweud wrth y plant. Roedd y plant ieuengaf – efeilliaid – ond yn wyth oed,” ychwanegodd Amanda Jones.
“Doedd dim sbel ers i ni golli fy nhad a bu’n rhaid i Mam ddelio gyda cholli gŵr a mab mewn cyfnod byr.”
Fis Gorffennaf eleni bydd Malachai, mab Dylan, yn cerdded mynydd Pen-y-fan i nodi 10 mlynedd ers ei farwolaeth gan godi arian at elusennau Veterans Cymru a Scott’s Little Soldiers – elusennau sy’n helpu iechyd meddwl aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.
“Does dim atebion ‘da ni am be’ sy wedi digwydd a fydd ‘na ddim.
“Ni’n beio’n hunain. Ni’n holi pam bo ni ddim wedi gofyn mwy ond o’dd e methu byw.
“Odi mae’n 10 mlynedd a dyw e ddim yn mynd yn rhwyddach.”