Ar ddatblygiad Victoria Wharf yng Nghaerdydd, mae preswylwyr yn gobeithio disodli FirstPort fel rheolwyr y safle yn sgil ffioedd cynyddol hefyd.
Mae yswiriant y blociau o fflatiau wedi saethu i fyny yn sgil trychineb Grenfell, medden nhw.
Mae perchnogion y fflatiau yn talu mwy na £500,000 ar y cyd i gwmni FirstPort er mwyn yswirio’r adeiladau, yn ogystal â £150,000 y flwyddyn ar gyfer warden tân.
“Roeddwn ni’n talu just o dan £900 bob chwe mis cyn Awst 2019, ond erbyn hyn mae hi geiniogau’n fyr o £2,000 bob chwe mis”, meddai Alison Steele, sydd wedi perchen â fflat ar y safle ers 12 mlynedd.
“Mae’n cael effaith fawr.
“Siwr bod gen i ddwy flynedd o bres ar ôl i dalu’r costau, ond ar ôl hynny fyddai’n gorfod symud fel mae lot o bobl eraill wedi gorfod gwneud yn barod yn anffodus.”