Cysylltu pobl gyda chymorth anghlinigol yn y gymuned trwy wasanaethau lleol sydd wrth wraidd y strategaeth newydd.
Mae grwpiau cerdded yn un enghraifft o’r math o weithgareddau sy’n cael eu cynnig i rai pobl.
Ers ymddeol, mae Lee Williams, o Flaen Rhondda, wedi ymuno â sawl grŵp cerdded yn ei hardal leol yn ogystal â sefydlu grwpiau cerdded newydd hefyd.
“Mae wedi gwneud lot fawr o wahaniaeth,” meddai Ms Williams.
“Chi jyst yn teimlo’n well ar ôl bod mas yn yr awyr agored yn gwrando ar yr adar ac amser yma o’r flwyddyn chi’n gweld y planhigion yn tyfu.
“Mae jyst yn tynnu meddwl chi off unrhyw beth arall.
“Mae’n newid y ffordd mae pobl yn meddwl… wrth fyd mas a siarad â phobl eraill yn yr awyr iach mae [pobl yn] sylweddoli faint maen nhw’n gallu gwneud yn lle beth maen nhw ddim yn gallu gwneud.”