Mae cyn-glo Cymru, Abertawe a’r Barbariaid, Geoff Wheel, wedi marw yn 73 oed.
Wrth gadarnhau’r newyddion dywedodd Clwb Rygbi Abertawe bod Wheel wedi dioddef o glefyd motor niwron ers rhai blynyddoedd.
Chwaraeodd Geoff Wheel 32 gêm ryngwladol i Gymru rhwng 1974 a 1982.
Ei lysenw oedd ‘Gaffa’ – roedd yn arwr i gefnogwyr Cymru yn y 1970au ac yn enwog am ei fand pen gwyn.
Rhwng Ionawr 1975 a Mawrth 1978 roedd Wheel yn rhan o’r tîm a lwyddodd i ennill 15 gêm i Gymru.
Wrth roi teyrnged i Geoff Wheel dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Abertawe, Stan Addicott ei fod yn berson yr oedd pawb yn ei garu.
“Roedd Geoff yn cael ei barchu a’i garu’n fawr gan bawb yng Nghlwb Rygbi Abertawe,” meddai.