Mae Christopher Davies, neu Chris Bach fel mae’n cael ei adnabod yn lleol, ac un o selogion y Ring, yn dweud fod y dafarn yn “hollbwysig” i’r gymuned.
Dywedodd iddo fod yn mynd i’r Ring ers y 70au cynnar.
“‘Da ni gyd yn neud ein gorau i hel y pres ‘ma,” meddai.
“Mae [y dafarn] wedi bod yn bart o’r lle ‘ma, mae’n chwith mawr hebddi.”
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y dafarn yn weithredol er lles y genhedlaeth nesaf.
“Dwi’n 73, i’r genhedlaeth nesaf a’r genhedlaeth ar ei hôl hi fydd hi,” meddai.
Gyda dal tri chwarter y ffordd i fynd i gyrraedd y targed, dywedodd mai “dyna ‘di’r bwgan mwyaf ar y funud” ac yn annog y gymuned i “fynd i’w pocedi rŵan”.