Cymru yn colli’n drwm yn erbyn Lloegr yng ngêm olaf y Chwe Gwlad

Cymru yn colli’n drwm yn erbyn Lloegr yng ngêm olaf y Chwe Gwlad

Dau newid oedd i’r tîm a gollodd yn erbyn Yr Alban wythnos diwethaf – Joe Roberts ar yr asgell yn lle Tom Rogers sydd wedi’i anafu ac Aaron Wainwright yn y rheng ôl yn lle Tommy Reffell.

Fe gafodd y cochion dri cyfle yn gynnar yn ystod yr hanner cyntaf ond ni lwyddwyd i droi y mantais yn bwyntiau ond wedi hanner awr fe ddaeth cais i Gymru wedi i Ben Thomas dirio a Gareth Anscombe drosi.

Ond byr fu’r llawenydd gan i Loegr sgorio cais arall yn fuan – Tommy Freeman y tro hwn ac wedi trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 7-21.

Cyn hanner amser dau gais arall i’r Saeson – Chandler Cunningham-South yn sicrhau cais pwynt bonws a Will Stuart yn sgorio’r pumed cais.

Y sgôr ar hanner amser oedd 7-33.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top