Mae amddiffynnwr Cymru Ben Davies yn dweud eu bod nhw fel carfan yn “teimlo’n dda” ar gyfer y gêm yn erbyn Gogledd Macedonia yn Skopje yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd nos Fawrth.
Fe ddechreuodd Cymru eu hymgyrch gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Kazakhstan yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mi fydd Gogledd Macedonia hefyd yn mynd mewn i’r gêm yn llawn hyder ar ôl ennill o 3-0 yn erbyn Liechtenstein