Dywedodd Hannah Blythyn AS, cadeirydd y pwyllgor a luniodd y cynigion, y byddai’r newidiadau yn helpu i adeiladu “ymddiriedaeth a thryloywder yn ein prosesau, yn ein gwleidyddion ac yn ein gwleidyddiaeth”.
Er i’r Cwnsler Cyffredinol Julie James gytuno i gyflwyno deddfwriaeth cyn yr etholiad nesaf, fe rybuddiodd fod “amser yn brin”.
Mae cytundeb trawsbleidiol bod angen newid y system ac yn ôl Julie James “mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn anodd ei ennill, ond yn hawdd ei golli, a’n dyletswydd ni yw ei diogelu”.
“Mae pobl yn disgwyl safonau uchel gan eu cynrychiolwyr etholedig, a phan na fydd y safonau hynny’n cael eu cyrraedd, maen nhw’n disgwyl canlyniadau,” meddai.
“A dyna pam mae angen system deg, dryloyw sy’n caniatáu i bleidleiswyr, yr union bobl sy’n ein rhoi ni yma, gael y gair olaf.”
Ar hyn o bryd, os yw hi’n dod i’r amlwg fod Aelod o’r Senedd wedi torri’r cod ymddygiad mae modd eu hatal am gyfnod o amser, ond yn wahanol i San Steffan ni ellir eu gwahardd yn llwyr.
Bu galwadau ers tro i’r system newid, ond mae’r mater wedi dod i’r pen yn ddiweddar wrth i’r Senedd baratoi i ehangu i 96 aelod gyda system etholiadol newydd.