Cyffuriau colli pwysau wedi ‘newid bywyd’ gohebydd S4C

Cyffuriau colli pwysau wedi ‘newid bywyd’ gohebydd S4C

Dywedodd y meddyg teulu Dr Llinos Roberts fod y “cyffuriau yma yn gam cyffrous o fewn y diwydiant yn y maes meddygol o ran ffurf arall i gefnogi cleifion i golli pwysau”.

Er ei bod yn cydnabod nad dyma fydd cam cyntaf y daith i golli pwysau i neb, a bod angen edrych ar newidiadau i ffyrdd pobl o fyw, dywedodd ei fod yn “ddefnyddiol i rai cleifion”.

“Mae rhai penodol – chwistrelliadau fel Ozempic yn cael eu cynnig mewn clinigau arbenigol lle mae rhywun yn cael goruchwyliaeth fanwl,” meddai Dr Roberts.

“Mae ‘na criteria penodol am bwy sy’n gymwys i bwy sy’n cael y math yma o feddyginiaethau oherwydd er bod o’n gallu bod yn fuddiol iawn, mae ‘na sgil effeithiau iddyn nhw hefyd.”

Ychwanegodd mai un o’r pethau sy’n “gofidio” meddygon yw bod “pobl yn cael y meddyginiaethau dros y we, heb yr oruchwyliaeth benodol fyddwn i’n ei ddymuno”.

“Mae’r sgil effeithiau yn gallu bod yn rhai difrifol iawn, felly mae angen y goruchwyliaeth a’r gefnogaeth feddygol.”

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top