Mae Elliw Williams yn byw yn Y Felinheli ac fe ddefnyddiodd hi’r gwasanaeth bws hwn yn ddiweddar, ond mae’n dweud na wnaiff hi eto am sbel.
Fe gafodd sioc am bris tri thocyn unffordd o un pen y pentref i’r llall.
Roedd hi yn y parc gyda’i merch chwech oed, Nel, a’i ffrind, ac ar ôl gwrando ar dipyn o gwyno am yr allt oedd i’w ddringo yn ôl adref, dyma Elliw yn penderfynu teithio rhan o’r siwrne ar y bws.
“Mae ‘na gryn dipyn o allt, felly be wnawn ni ydy cael bws o’r siop i Cerrig yr Afon, sydd pen arall Felinheli,” meddai.
“Dwi ddim yn siŵr os ydy o cweit yn filltir, ond roedd o’n £5.50 i’r tair ohonan ni! O’n i’n gegrwth!
“Roedd o’n £1.50 yr un iddyn nhw a £2.50 i fi.
“O ran defnyddio’r bws fel alternative i unrhyw beth, byddai tacsi wedi bod tua hanner y pris i fi!”