“Bydd y manylion diweddaraf am gynnydd y gwaith yn cael eu rhannu ar ôl i gontractwyr gael eu penodi,” ychwanegodd llefarydd.
“Bydd y llyfrgell newydd yn fwy a bydd ganddi gasgliad gwell o lyfrau gyda chasgliad plant llawer gwell.
“Bydd ffocws newydd ar les a llawer mwy o le ar gyfer gweithgareddau, astudio a llu o adnoddau digidol newydd.
“Bydd y llyfrgell newydd ar agor am oriau hwy yn ystod yr wythnos yn ogystal â boreau Sadwrn.
“Ar adeg o gyllid heriol, rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar y prosiect hwn i wella a diogelu cyfleusterau llyfrgell a chysylltiadau cwsmeriaid yn Aberaeron.
“Rydym hefyd yn buddsoddi yn ein hadnoddau digidol ar gyfer holl ddefnyddwyr Ceredigion ac rydym yn annog pawb i ymuno â llyfrgell yn bersonol neu drwy ein tudalennau ar-lein er mwyn manteisio ar yr holl adnoddau gwych sydd ar gael.”