Cricieth: Ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn ‘boen meddwl’

Cricieth: Ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn ‘boen meddwl’

Gyda chynghorau ar draws Cymru wedi gweld eu cyllidebau’n cael eu torri ac felly’n gorfod torri gwasanaethau, mae ‘na bryder hefyd bod diffyg adnoddau a chyfleusterau yn arwain at blant yn achosi trafferthion.

Mae’r Cynghorydd Williams yn poeni bod yr argyfwng costau byw hefyd yn gwneud bywyd rhieni yn anoddach, “gyda nifer yn gweithio mwy nag un swydd”, meddai.

Ddiwedd Ionawr fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer yr ardal.

Mae’n gwneud hi’n haws i’r awdurdodau fynd i’r afael “â’r lleiafrif bychan o bobl sy’n rhan o’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol”.

Yn ôl yr Arolygydd Iwan Jones o’r llu, sy’n gyfrifol am De Gwynedd, mae’r trafferthion yn cael effaith ar y dref.

“Mi oedd ‘na bobl ifanc yn ymgasglu yn y bus stops yn yfed alcohol a sôn am gyffuriau ac yn difrodi eiddo, ac roedd hyn yn rhywbeth oedd yn digwydd yn ddyddiol bron,” meddai.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top