Creu ffilm ar ôl colli 34 o ffrindiau a theulu drwy hunanladdiad

Creu ffilm ar ôl colli 34 o ffrindiau a theulu drwy hunanladdiad

Yn ôl Mr Jenkins fe ddaeth arwyddocâd y ffilm yn amlycach iddo’n ddiweddar yn dilyn noson codi arian – noson gerddoriaeth mewn tafarn leol.

“Roedd un o’r dynion oedd yno – dim ond yn ei 50au, i weld yn cael amser da, ac fe wnaeth o roi arian tuag at yr achos,” meddai.

“Fe wnes i ddarganfod yn ddiweddarach y noson honno ei fod wedi mynd adref a lladd ei hun.

“Ro’n i’n teimlo’n euog am gyfnod, gan gwestiynu a oedden ni’n gwneud y peth iawn, ond ni wedi cael llif o negeseuon cefnogol ers hynny.”

Yn ôl Mr Watkins-Hughes, er mai dyma’r ffilm anoddaf iddo hyd yma, mae’n un yr oedd yn teimlo roedd “rhaid ei gwneud”.

“Ni eisiau sicrhau ein bod ni’n gwneud cyfiawnder â’r pwnc a bod yna effaith bositif o hyn,” meddai.

“Ni ddim yn cynnig gwellhad nac atebion, ond mae’n ddechrau ar un o’r pwyntiau yn y sgwrs, fel y gall cymdeithas gobeithio gyfathrebu’n well â phobl sy’n wynebu’r sefyllfa ofnadwy yna.”

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top