Cofio Ernie Walley: O Gaernarfon i Tottenham Hotspur yn 17 oed

Cofio Ernie Walley: O Gaernarfon i Tottenham Hotspur yn 17 oed

Oddi ar y cae pêl-droed mae gan Iwan Roberts atgofion melys o rannu lifft gydag Ernie.

“Un stori arall dwi’n cofio, oedd o’n roi lifft adra i fi o Watford, adra i ogledd Cymru at Mam a Dad, a oedd Tom yn deud ‘mae Ernie yma heddiw paid â boddran cael tocyn trên, roith Ernie lifft i chdi’.

“Oedd yna un rheswm pam fod o isio cwmpeini – oedd ganddo fo droed itha trwm pam oedd o yn y car ac oedd ganddo fo naw pwynt ar ei leisans – oedd o isio cyfaill bach yn ista drws nesa iddo fo yn cadw llygad ar blismyn ar y ffordd!

“Ac amball i waith ddaru fi fethu amball i blisman ac o’n i’n cael row, o’n i’n cwympo i gysgu yn y set a bydda Ernie’n deud ‘Nes di fethu hwnna do!'”

Wrth adlewyrchu ar waddol Ernie, dywedodd Roberts am y ddau frawd: “Dau berson anhygoel, mae gen i gymaint i ddiolch iddyn nhw.

“Faswn i byth wedi chwarae am 20 mlynedd heb y cymorth na’r gwaith nath Ernie, ac yn enwedig Tom yn ystod ei ddyddiau cynnar yn Watford.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top