Cludo chwaraewr Wrecsam, Elliot Lee i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad

Cludo chwaraewr Wrecsam, Elliot Lee i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad

Mae chwaraewr canol cae Wrecsam, Elliot Lee, wedi ei gludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar ei ffordd adref o’u gêm yn erbyn Bolton Wanderers nos Fawrth.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys car arall a bu’n rhaid i yrwyr y ddau gerbyd fynd i’r ysbyty.

Mewn datganiad dywedodd Clwb Pêl-droed Wrecsam bod y “gwasanaethau argyfwng wedi cyrraedd y safle’n gyflym a hoffai’r clwb ddiolch iddyn nhw am ymateb a gweithredu mor fuan”.

Dywedon nhw: “Dydy’r chwaraewr ddim wedi cael unrhyw anafiadau difrifol, tra bod gyrrwr y cerbyd arall yn cael ei drin am anafiadau.”

“Ni fydd y clwb yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”

Fe chwaraeodd Lee yn erbyn Bolton Wanderers yn Nhlws yr EFL nos Fawrth wrth iddyn nhw ennill 1-0.

Mae Lee wedi chwarae 134 o gemau i’r clwb gan sgorio 38 o goliau.

Mi fydd y Dreigiau’n wynebu Peterborough United yn y rownd gyn-derfynol ddiwedd y mis.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top