Dywedodd y cynghorydd Bryan Davies fod y gymuned leol yn “galaru” ar Noswyl Nadolig.
“Mae’r digwyddiad trasig hwn wedi digwydd gyda’r dyn ifanc, yn dad ifanc gyda gwraig ifanc a dau o blant bach, ac yn fab cariadus.
“Mae’r awyrgylch yma yn dawel, yn dweud dros ei hun fod y gymuned yn galaru.
“Ers i mi gyrraedd y lleoliad, does dim cerbydau yn mynd heibio, mae mor dawel.”
Mae’r lôn ar gau ar hyn o bryd ac yn debygol o fod ar gau am ychydig o amser wrth i’r ymchwiliad barhau.