Roedd cyfnodau da i Gymru ac roedd perfformiad Jac Morgan yn yr hanner cyntaf yn gryf wrth iddo ennill ciciau cosb.
Yn dilyn cic daclus gan Anscombe, llwyddodd Cymru i sgorio eu cais cyntaf wrth i Blair Murray groesi’r llinell gais ond methodd Anscombe y trosiad.
Unwaith eto, fe wnaeth yr Alban daro yn ôl wrth i Darcy Graham sgorio eu trydydd cais mewn llai na hanner awr.
Roedd rhwystredigaeth wrth i Gymru ildio ciciau cosb a cafodd WillGriff John ei anfon i’r gell gosb ar ôl defnyddio ei goes i atal yr Alban rhag cael y bêl.
Manteisiodd yr Alban ar sawl camgymeriad gan Gymru, cyn i Tom Jordan groesi’r llinell gais i’w gwneud hi’n 28-8, wrth iddyn nhw gipio pwynt bonws.
Er i Gymru drio’n galed i ennill tir, roedd yr Alban yn dal i edrych yn fwy cyfforddus gyda’r bêl.