Chwe Gwlad: Cymru yn colli yn erbyn Yr Eidal

Chwe Gwlad: Cymru yn colli yn erbyn Yr Eidal

Wedi’r golled drom yn erbyn Ffrainc wythnos diwethaf, roedd y gêm yn Stadio Olimpico Rhufain yn gyfle i dîm Warren Gatland adennill mymryn o barch.

Roedd rhaid i Gymru wneud newidiadau i’r tîm aeth allan yn y Stade de France, gyda’r cefnwr Liam Williams allan oherwydd anaf i’w pen-glin a’r clo Dafydd Jenkins allan oherwydd salwch.

Roedd hi’n ddechrau bratiog i’r gêm, gyda’r ddau dîm yn cicio’n amlach na’r arfer yn y glaw.

Daeth pwyntiau cyntaf Cymru o’r bencampwriaeth ar ôl 17 munud, gyda chic cosb gan Ben Thomas yn ei gwneud hi’n 3-3 ar ôl cic cosb gan Tommaso Allan i’r Eidalwyr.

Ond gydag ychydig dros hanner y 40 gyntaf yn weddill, daeth cais cyntaf y gêm gan Ange Capuozzo ar ôl symudiad campus gan Paolo Garbisi a giciodd y bêl i’r cornel o sgrym. Fe ddilynodd Garbisi gyda throsiad.

Yn dilyn dwy gic cosb arall gan y tîm cartref, ymatebodd Cymru gyda’u cyfnod gorau o’r hanner, yn chwarae yn 22 yr Eidal hyd at yr egwyl ond yn methu i ennill rhagor o bwyntiau.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top