Dywed Clwb Pêl-droed Wrecsam bod cefnogwr a gafodd ei daro yn sâl ddydd Sadwrn yn ystod ei gêm oddi cartref yn erbyn Wycombe Wanderers yn gwella yn yr ysbyty.
Bu’n rhaid atal y gêm wedi 77 munud er mwyn delio â’r digwyddiad, medd y clwb, ac fe ychwanegodd llefarydd bod y cefnogwr yn anadlu, yn ymwybodol ac mewn cyflwr sefydlog pan aed ag ef i’r ysbyty.
Mae e’n gwella wedi iddo gael triniaeth frys bellach, medd datganiad.
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn anfon eu cofion at y cefnogwr ac yn dymuno iddo adferiad buan ac mae’r clwb hefyd am ddiolch i’r tîm meddygol, y staff a holl gefnogwyr Wycombe Wanderers am ymateb mor sydyn i’r digwyddiad.
Wrecsam oedd yn fuddugol yn Adams Park gan sgorio yn y munudau olaf wedi i’r gêm gael ei hatal am 20 munud.
Ar ei gyfrif X dywedodd y cyd-berchennog Ryan McElhenney: “Ry’n ni gyd mor falch o’r bechgyn a’u buddugoliaeth anhygoel.
“Ond ry’n yn meddwl am y cefnogwr a gafodd ei ruthro i’r ysbyty ac yn dymuno gwellhad buan iddo.”