Ar gyfartaledd, mae prisiau tai yng Nghymru yn is nag gweddill y DU.
Mae’r Mynegai Prisiau Tai diweddaraf yn dangos mai cost gyfartalog tŷ yng Nghymru yw £233,000 tra ei fod yn fwy na £267,000 ar gyfer y DU cyfan.
Ond mae prisiau tai yng Ngheredigion ar gyfartaledd yn £236,000 – sy’n uwch na chyfartaledd Cymru mewn sir lle mae incwm canolrifol ymhlith yr isaf ym Mhrydain.
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn “ymwybodol o’r pwysau pan mae’n dod i brynu tai yn y sir” ac yn “gwario adnoddau sylweddol” i geisio gwella’r sefyllfa.
Yn eu datganiad, mae llefarydd yn dweud “bod gan y gwasanaeth cynllunio targed i gyflawni 20% o’r holl dai i fod yn fforddiadwy ar draws y sir ac wedi rhagori ar y targed hwn gyda 37% o dai a ganiateir a 33% o’r holl dai a adeiladwyd ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol yn fforddiadwy; Disgownt ar gyfer Eiddo Gwerthu neu Rentu Canolraddol.
“Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflwyno Cynllun Tai Cymunedol, cynnyrch rhannu ecwiti, i gefnogi pobl i fynd ar yr ysgol dai.
“Fel awdurdod mae blaenoriaethu darparu tai fforddiadwy yn biler canolog yn ein Strategaeth Gorfforaethol ac rydym yn parhau i ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd i wneud y mwyaf o gyfleoedd tai ledled y sir.”