Roedd Roberts wedi cyfaddef gwneud delweddau anweddus a chael y llawlyfr pedoffiliaid ar ôl i’r heddlu ei arestio ym mis Gorffennaf 2023, ac archwilio ei ffôn a’i gyfrifiadur.
Dywedodd yr erlynydd, Laura Knightly, nad oedd bron i 400,000 o ddelweddau a fideos wedi eu categoreiddio, ond bod hi’n ymddangos bod llawer iawn yn cynnwys deunydd cam-drin plant.
Roedd rhai o’r plant oedd yn y delweddau yn ymddangos dan ddylanwad cyffuriau.
Dywedodd y Barnwr Petts wrth Roberts: “Rydych chi, dros gyfnod, mae’n ymddangos, o sawl blwyddyn, wedi casglu casgliad enfawr o ffotograffau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol.”
Dywedodd y barnwr fod Roberts wedi cael ei ddisgrifio fel dyn “haerllug a diystyriol” a bod “diffyg difaru”.
Bydd Roberts hefyd yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol.