Mae’r Cymry yn enwog am eu traddodiadau cerddorol, er mai fy mam oedd y cerddor proffesiynol cyntaf yn ei theulu.
Fel mae Mam yn ei ddweud ar ei gwefan, “Roedd y rhan fwyaf o blant fy nghenhedlaeth i yn cael eu hannog i ganu o oed ifanc, ac wedi hen arfer â sefyll ar gadair cegin i ganu i deulu a ffrindiau. Roedden nhw’n cystadlu’n rheolaidd mewn eisteddfodau ysgol a chenedlaethol, yn perfformio cerddoriaeth, barddoniaeth a drama, a roddodd hyder iddyn nhw ar lwyfan.
“Tydw i ddim yn cofio diwrnod nad oedd yn cynnwys naill ai cerddoriaeth neu farddoniaeth mewn rhyw fodd neu’i gilydd.”
Byddai hi hefyd yn canu’n rheolaidd yng nghapel y Tabernacl o oed ifanc, ac yn cymryd yn ganiataol y byddai hi’n gwneud bywoliaeth iddi ei hun drwy ganu.
Yn yr ysgol, ar ôl dechrau gydag emynau yn y gwasanaeth bob bore, byddai’r plant yn cynnal cyngherddau yn ystod amser chwarae, i ddiddanu ei gilydd gyda’u hoff ganeuon. Pan oedd hi’n 13 oed, dechreuodd ddod â’i gitâr gyda hi i’r ysgol i ganu a chwarae i’w ffrindiau amser cinio, neu yn ystod sesiynau astudio yn neuadd yr ysgol.