Cannoedd yn mentro i’r môr yn Ninbych-y-Pysgod

Cannoedd yn mentro i’r môr yn Ninbych-y-Pysgod

Fe wnaeth nifer fentro i ddŵr oer y môr yn Ninbych-y-pysgod fore Iau – un o draddodiadau Gŵyl San Steffan yr ardal.

Trefnir y digwyddiad gan Gymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-pysgod, ac mae wedi dod yn un o uchafbwyntiau Nadoligaidd Cymru dros y blynyddoedd gan gychwyn dros hanner can mlynedd yn ôl.

Dros y blynyddoedd, mae wedi codi miloedd ar gyfer elusennau ac achosion da lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae poblogrwydd y digwyddiad yn parhau i dyfu wrth i gannoedd redeg i’r môr.

Thema’r wisg ffansi ar gyfer eleni oedd Archarwyr a hynny fel teyrnged i weithwyr bad achub yr RNLI – sefydliad sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 200 oed.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top