Fe gaeodd hen waith brics Seiont yn 2008 ond cafodd y chwarel ei hailagor fel compownd yn ystod gwaith adeiladu ffordd osgoi Caernarfon.
Roedd y datblygwyr o Ruthun yn honni y byddai’r cynlluniau diweddaraf yn creu hyd at 15 o swyddi newydd, ac yn cefnogi rhagor o waith anuniongyrchol yn lleol.
Ond gyda’r safle yn agos at dai, parc cymunedol ac Ysbyty Eryri, roedd nifer yn bryderus am yr effaith ar les a diogelwch y gymuned a’r amgylchedd.
Roedd llygredd aer, sŵn a thraffig, ynghyd â’r effaith amgylcheddol yn enwedig yn destun pryder yn lleol.