Y cynghorydd Cai Larsen sy’n cynrychioli canol tref Caernarfon ar Gyngor Gwynedd.
Gan gyfeirio at y graffiti yn y dref, fe ddywedodd fod hwn, yn bersonol ac o ran y gymuned ehangach, “yn fater o ofid sylweddol… fod hyn wedi gallu digwydd”.
“Hynny yw, mae o’n resyn fod hyn wedi gallu digwydd yng nghanol tref Caernarfon.”
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn ymwybodol o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu rhannu yn y dyddiau diwethaf, all fod wedi peri pryder o fewn y gymuned.
“Rydym ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid lleol i reoli’r effaith ar drigolion lleol.
“Rydym ni hefyd wedi derbyn adroddiadau o graffiti ynghanol y dref, a gallwn gadarnahu fod dyn wedi ei arestio yn gysylltiedig â hyn. Mae o bellach wedi ei ryhddau ar fechniaeth wrth i’n hymchwiliad barhau.
“Roedd ‘na swyddogion yn ardal Pendalar Caernarfon ddoe, lle cafodd tri dyn eu harestio mewn digwyddiad arall sydd ddim yn gysylltiedig.”
“Dylai unrhywun ag unrhyw bryderon neu wybodaeth yr hoffen nhw ei rannu, gysylltu â ni drwy sgwrs fyw ar ein gwefan, neu drwy alwad ffôn anhysbys i CrimeStoppers ar 0800 555 111.”