Caernarfon: Cwest yn clywed i ferch un oed farw ar ôl cael ei tharo gan gerbyd

Caernarfon: Cwest yn clywed i ferch un oed farw ar ôl cael ei tharo gan gerbyd

Mae cwest wedi clywed bod merch un oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gerbyd ar faes gwersylla ger Caernarfon.

Roedd Mabel Elizabeth Baldini yn dod o ardal Winsford yn Sir Caer.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad yng ngwersyll Bryn Gloch ym Metws Garmon tua 10:20 ddydd Llun, yn dilyn adroddiadau fod plentyn ifanc wedi cael ei tharo gan gerbyd.

Clywodd y gwrandawiad fore Gwener iddi gael ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gan yr Ambiwlans Awyr.

Dywedodd y crwner i’r ferch farw yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty, a nodwyd mai anaf difrifol i’w phen oedd achos ei marwolaeth.

Wrth agor y cwest fe wnaeth uwch-grwner gogledd orllewin Cymru, Kate Robertson estyn ei chydymdeimlad i deulu a ffrindiau’r plentyn.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i’r ymchwiliad i’r digwyddiad barhau.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top