Mae un o wasanaethau tân Cymru wedi ei ddisgrifio fel “clwb bechgyn” mewn adolygiad diwylliannol.
Yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mercher, mae rhai aelodau o staff Gwasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin yn meddwl bod pobl sy’n rhan o “glybiau triathlon a charafanau” yn datblygu ymhellach o fewn y llu.
Cyfrannodd dros 400 o staff i’r adolygiad annibynnol, sy’n nodi nad oes “unrhyw gonsensws clir” os yw diwylliant y gwasanaeth wedi gwella ers 2021.
Mae’r gwasanaeth wedi ymddiheuro i unrhyw aelod o staff sydd wedi profi aflonyddu, bwlio neu wahaniaethu.
Mae Gwasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin yn un o ddwy frigâd yng Nghymru sy’n cael eu beirniadu mewn adroddiadau annibynnol ddydd Mercher, gyda’r llall am Wasanaeth y Gogledd.