Mae rheolwyr Ysgol Gymraeg Llundain yn rhagweld fod “tair blynedd heriol tu hwnt” o’u blaenau yn sgil diffyg disgyblion.
Er bod twf wedi bod yn nifer y plant yn y cylch babanod a phlant bach, dim ond 12 disgybl sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Pob mis, mae’r ysgol yn wynebu diffyg ariannol o £2,500, sy’n cyfateb i £30,000 y flwyddyn.
Yn ôl yr athrawes arweiniol, Emilia Davies, mae disgwyl i hynny barhau am y tair blynedd nesaf os na fydd disgyblion newydd yn cael eu hychwanegu at y gofrestr.
Mae apêl ar-lein wedi cael ei lansio er mwyn ceisio codi mwy o arian a denu mwy o ddisgyblion.