Arestio dyn 35 oed yn dilyn marwolaeth baban

Arestio dyn 35 oed yn dilyn marwolaeth baban

Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn, yn dilyn marwolaeth baban yng Nghasnewydd.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw yn dilyn adroddiad o argyfwng meddygol yn Gaer Vale yn y ddinas tua 06:30 ar 4 Mawrth.

Fe wnaeth swyddogion a pharafeddygon gyrraedd y safle, ac fe gludwyd baban i’r ysbyty, ble bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r dyn 35 o Flaenafon a gafodd ei arestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top