Mae Prif Weithredwr Antur Waunfawr, Ellen Thirsk, wedi galw am gefnogaeth frys gan Lywodraeth y DU ar ôl cael gwybod y bydd y ganolfan yn derbyn bil yswiriant gwladol o dros £71,000.
Mae’r ganolfan, sy’n helpu pobl ag anableddau dysgu, yn dweud eu bod yn wynebu pwysau ariannol mawr.
Mae Aelod Arfon yn y Senedd, Sian Gwenllian hefyd yn pryderu ac yn dweud bod nifer o ganolfannau eraill sy’n helpu pobl fregus yn wynebu heriau ariannol tebyg.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn “cefnogi ein helusennau trwy gyfundrefn dreth arloesol, a llynedd yn unig roddwyd £6biliwn mewn cymorth i’r sector”.